Llifogydd er gwaetha' gwaith £4.9m
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr busnes wedi beirniadu cynllun gwerth £4.9 miliwn i atal llifogydd yn Ninbych gan ddweud bod trafferthion o hyd pan ddaw glaw trwm.
Achosodd y gwaith i gyfnewid ceuffosydd 200 mlwydd oed bron i ddwy flynedd o aflonyddwch ar ffyrdd y dref.
Daeth y gwaith i ben yn haf 2011.
Ond dywed Grŵp Busnes Dinbych bod llifogydd wedi digwydd deirgwaith yn ardal Pwll Grawys ers hynny.
Bydd Dŵr Cymru yn cynnal gwaith i ddatrys y broblem fis nesaf.
Mae'r cwmni wedi trefnu i gwrdd gydag arweinwyr busnes yr wythnos nesaf cyn gwneud y gwaith angenrheidiol ym mis Chwefror.
Miliynau
Dywedodd Dŵr Cymru y bydd gwaith i drwsio rhwystr yn digwydd ym Mhwll Grawys o Chwefror 6 ynghyd â gwaith arall yn ardaloedd Smithfield Road a Cae Fron ben arall i'r dref.
Dywedodd Sue Muse, sy'n berchennog caffi ac yn ysgrifennydd y grŵp busnes, eu bod wedi gwario miliynau a chau ffyrdd.
"Dyw e ddim wedi gwneud unrhyw wahaniaeth."
Dywedodd nad oedd y llifogydd yn rhai drwg, ond ychwanegodd nad oes llawer o law wedi bod yn y misoedd diweddar.
Daeth Ms Muse ac aelodau eraill o'r grŵp i gyfarfod gydag uwch swyddogion Cyngor Sir Ddinbych i drafod eu pryderon tua diwedd 2011.
Bydd nawr yn cwrdd gyda chynrychiolwyr o Dŵr Cymru ddydd Llun.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych y bydd gwaith yn cael ei wneud i ddatrys y broblem.
Dywedodd y gallai'r cynllun atal llifogydd "fod wedi cael effaith ar y sustem garffosiaeth".
"Rydym yn gwybod y bydd y gwaith yn achosi peth aflonyddwch i ddefnyddwyr y ffyrdd," meddai'r Cynghorydd Sharon Frobisher.
"Mae'r cyngor a Dŵr Cymru yn ymddiheuro am hyn ac yn diolch o flaen llaw i yrwyr am eu hamynedd."
Straeon perthnasol
- 13 Ionawr 2010