Diwedd y gân
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog un o siopau recordiau annibynnol enwocaf Cymru wedi datgelu y bydd y siop yn cau.
Bydd Recordiau Cob ym Mangor, Gwynedd, yn cau ei drysau ym mis Mawrth wedi 33 o flynyddoedd.
Mae'r siop yn enwog drwy'r DU wedi iddi gael ei sefydlu fel cangen o siop wreiddiol y Cob ym Mhorthmadog. Nid yw'r cyhoeddiad yn cynnwys y siop honno.
Dywedodd Owen Hughes, perchennog siop Bangor, fod gwerthiant ar-lein a chryno ddisgiau yn golygu nad oedd y siop bellach yn talu ffordd.
"Yn sicr mae'n ddiwrnod trist i ni, ac yn ddiwrnod trist i nifer o gwsmeriaid teyrngar sydd gennym o hyd," meddai Mr Hughes.
Pwysau'r rhyngrhwyd
"Ond grym economaidd sydd wedi gorfodi'r penderfyniad arnom - nid yw'n ymarferol i gario 'mlaen.
"Mae prydles y siop yn dod i ben, ac roedd rhaid i mi benderfynnu mai nawr yw'r amser i adael."
Agordd y siop ar Stryd Fawr Bangor yn 1979 yn dilyn llwyddiant y siop recordiau ail-law sy'n dal ar agor ym Mhorthmadog.
Am dros 30 mlynedd bu'r siop yn gyrchfan i gasglwyr recordiau ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Bu hefyd yn ganolfan bwysig i fandiau Cymraeg newydd, wrth i bartneriaethau ffurfio wrth bori drwy'r miloedd o recordiau feinyl a chryno ddisgiau yn y siop.
Ychwanegodd Owen Huges: "Gobeithio ein bod wedi chwarae ein rhan.
"Mae nifer o'n cwsmeriaid yn gysylltiedig â cherddoriaeth mewn amryw ffyrdd.
"Roedden ni'n ceisio creu 'buzz' am y sîn gerddorol yn gyffredinol, oherwydd dyna yw ein diddordeb."
Mae'r siop yn un o bum siop annibynnol ar ôl yng Nghymru lle gall artistiaid werthu ac arddangos eu cynnyrch.
Mae ambell un o fewn y diwydiant cerddoriaeth yn poeni y gall cau Recordiau Cob olygu llai o gyfle i artistiaid newydd.