Canslo cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig fis nesa'
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi canslo'u cynhadledd flynyddol yn Llandudno fis nesa'.
Yn hytrach fe fydd y blaid yn cynnal rali undydd ym mis Mawrth i lansio ymgyrch yr etholiadau lleol a fydd yn cael eu cynnal ym mis Mai.
Yn ôl un ffynhonnell, roedd costau diogelwch wedi codi ers i'r blaid fynd i lywodraeth yn San Steffan.
Mae perchnogion gwestai yn Llandudno yn deud eu bod nhw'n siomedig.
"Mae'n siomedig colli unrhyw gynhadledd, mae'n golygu colli gwariant y gwestai a siopau," meddai Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno, David Williams.
"Rydym hefyd wedi colli cyfle marchnata drwy'r cyfryngau hefyd.
"Mae Llandudno wedi bod yn atyniad poblogaidd ar gyfer cynadleddau gwleidyddol sy'n mwynhau dod i drafod ar lan y môr."
'Blwyddyn bwysig'
Ychwanegodd ei fod yn credu y dylai'r Ceidwadwyr Cymreig wirioneddol ystyried cynnal y rali undydd yn Llandudno.
Roedd disgwyl i'r gynhadledd gael ei chynnal ar Chwefror 3 a 4.
Does 'na ddim manylion am ddyddiad a lleoliad y rali undydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod 2012 yn "flwyddyn bwysig" i'r Ceidwadwyr Cymreig a "bod angen parhau gyda'r gwaith sydd eisoes wedi dechrau ar eu gwaith ymgyrchu".
"Mae'r etholiadau lleol ar draws Cymru yn bwysig," meddai.
"Er mwyn rhoi'r gefnogaeth lawn i hyn, rydym yn newid ein trefniadau ar gyfer Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig eleni.
"Rali undydd fydd y fformat newydd er mwyn lanio'r ymgyrch etholiadau lleol."
Dyma fyddai wedi bod cynhadledd gyntaf y blaid ers i Andrew RT Davies gael ei ethol yn arweinydd ym mis Gorffennaf 2011.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Llŷr Huws Gruffydd, nad ydi'r Ceidwadwyr yn "blaenoriaethu siarad gyda'u haelodau na'r etholwyr yng Nghymru."