Ymosodiad: Chwe chwaraewr pêl-droed wedi eu rhyddhau

Mae mab rheolwr Abertawe ymhlith pump o chwaraewyr pêl-droed Brighton and Hove Albion gafodd eu holi mewn perthynas ag ymosodiad rhyw honedig.

Cafodd Anton Rodgers, 18 oed, mab Brendan Rodgers, ei ryddhau ar fechnïaeth ddydd Iau.

Arestiwyd Tommy Elphick, 24 oed, Lewis Dunk, 20 oed, George Barker, 20 oed a Ben Sampayo, 19 oed.

Mae'r pump wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tan Fawrth 21.

Hefyd cafodd cyn-chwaraewr y clwb, Steve Cook, 20 oed, ymunodd â Bournemouth ddechrau mis Ionawr, ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Helpu'r heddlu

Roedd yr ymosodiad rhyw honedig ym mis Gorffennaf.

Cafodd y chwaraewyr eu holi'r diwrnod ar ôl i Brighton and Hove Albion guro Wrecsam yng ngêm ail-chwarae trydedd rownd Cwpan yr FA.

Dywedodd llefarydd ar ran Brighton fod pum chwaraewr y clwb yn helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliadau.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran clwb Bournemouth fod chwaraewr yn helpu'r heddlu.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Sussex fod chwe dyn wedi eu harestio yn Brighton a Bournemouth ddydd Iau ar amheuaeth o ymosodiad rhywiol.

"Maen nhw wedi cael eu holi a'u rhyddhau ar fechnïaeth."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.