Ffilm: Parc o blaid cais cynllunio
- Published
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cymeradwyo cais cynllunio cwmni sydd am wneud ffilm ar Fynydd y Llan ger Myddfai yn Sir Gâr.
Mae'n debyg bod y cwmni ffilmio am gcodi capel a phlasty ar gyfer y prosiect.
Yn ôl ffynonellau, fe allai'r ffilm olygu hwb o £1.4 miliwn i'r economi leol, gyda hyd at at 200 o bobl yn rhan o'r cynhyrchiad dros gyfnod o dri mis.
Yn bresennol yn y cyfarfod oedd Russell Lodge sy'n gysylltiedig â'r cwmni ffilmio.
Mae hyn wedi arwain at sibrydion mai'r ffilm dan sylw yw Skyfall - ffilm ddiweddaraf James Bond.
Roedd cwmni cynhyrchu ffilmiau Bond wedi dangos diddordeb mewn ffilmio yng Nghastell Duntrune yn yr Alban ond fe dynnon nhw allan ddiwedd y llynedd.
Gwrthododd Mr Lodge gadarnhau mai Skyfall oedd y ffilm dan sylw a gwrthododd gadarnhau mai ef oedd rheolwr lleoliadau'r ffilm Bond newydd.
Amser yn brin
Bydd caniatâd cynllunio'r Parc yn cael ei gyfeirio i'r Cynulliad allai ymateb o fewn 21 diwrnod.
Pwysleisiodd Martin Hooker, cynrychiolydd asiant y cwmni ffilmio, yn y cyfarfod fod amser yn brin gan eu bod angen dod i'r ardal i adeiladu set o fewn wythnosau.
Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Huw Morgan, ei fod yn croesawu'r cais cynllunio.
"Mae e wedi dod â diddordeb mawr i'r ardal mewn cyfnod byr," meddai.
"Dim ond rhyw fis yn ôl y ceson ni wybod bod 'na ddiddordeb - mae pethe wedi datblygu ar frys ac mae pawb wedi gweithio'n galed ac ry'n ni'n ei groesawu'n fawr."
Fe fyddai'n newyddion da i westai a bwytai'r ardal yn ystod cyfnod tawel y flwyddyn, meddai.
Straeon perthnasol
- Published
- 13 Ionawr 2012