Uned gwrthderfysgaeth yn atal cyfarfod

Neuadd Gymuned Treganna
Image caption Cafodd yr heddlu eu gyrru i gyfarfod yn Neuadd Gymuned Treganna yng Nghaerdydd

Mae plismyn Uned Gwrthderfysgaeth ac Eithafiaeth Cymru wedi gwahardd cyfarfodydd grŵp o Foslemiaid ar eiddo Cyngor Caerdydd.

Roedd pryderon fod trefnwyr y cyfarfodydd yn gysylltiedig â grŵp arall - Muslims Against Crusades - sydd wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth 2000.

Aeth plismyn i gyfarfod oedd wedi ei drefnu nos Iau yn Neuadd Gymunedol Treganna yng Nghaerdydd.

Cefnogaeth

Roedd trigolion lleol wedi mynegi pryderon bod cyfarfodydd o'r fath yn cael eu cynnal yn yr ardal ers misoedd.

Roedd cyrch yr heddlu yn cael ei gefnogi gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd yr heddlu fod cefnogaeth hir dymor y gymuned Foslemiaid yng Nghaerdydd wedi bod yn allweddol wrth helpu'r heddlu a'u partneriaid i weithredu yn erbyn lleiafrif yr oedd eu gweithredoedd yn destun pryder.

Cafodd dyn lleol ei arestio ar amheuaeth o ymosod a chyflawni trosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.

'Cydbwysedd'

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Matt Jukes: "Roedd cyrch neithiwr yn rhan o strategaeth ehangach i atal radicaliaeth o fewn ein cymunedau ac atal pobl fregus rhag cael eu denu at eithafiaeth a syniadau terfysgol.

"Mae angen cydbwysedd gofalus wrth amddiffyn yr hawl i fynegi barn ond mae hybu neu ogoneddu terfysgaeth yn anghyfreithlon a does dim lle i grwpiau fel Muslims Against Crusades yn Ne Cymru.

"Rydyn ni wedi ymateb yn gymesur i'r mater.

"Nid yw hon yn broblem all gael ei datrys gan blismona yn unig. Mae'n hanfodol i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gan ein cymunedau hyder yn yr heddlu.

"Dim ond felly y bydd ganddyn nhw'r hyder i ddod at yr heddlu i drafod eu pryderon a dylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau yn bositif."

'Radicaleiddio'

Ychwanegodd Prif Uwch-arolygydd ardal Caerdydd, Alun Maxwell Thomas, mai cymunedau Moslemaidd Caerdydd oedd wedi mynegi eu pryderon am weithgareddau Muslims Against Crusades a bod cyrch nos Iau yn ceisio ymateb yn bositif i'r pryderon.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, John House: "Mae rhyddid mynegi barn yn bwysig iawn i'r cyngor ond rhaid cydbwyso hyn gyda'r angen am ddiogelwch a lles ein cymunedau.

"Roedd nifer o fewn cymunedau Moslemiaid Caerdydd wedi mynegi pryder bod mudiad wedi ei wahardd o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth 2000 yn defnyddio adeiladau'r cyngor i gynnal cyfarfodydd gyda'r potensial i radicaleiddio aelodau bregus ein cymdeithas.

"Oherwydd y pryderon, a thrwy weithio'n agos gyda Heddlu'r De, rydym wedi hysbysu'r unigolion na fyddan nhw'n cael cynnal cyfarfodydd yn eiddo'r awdurdod."