Dangos ffilm Y Chwarelwr dan ddaear
- Published
Roedd y ffilm Gymraeg gynta wedi cael ei dangos mewn lle anghyffredin, dan ddaear, nos Sadwrn.
Prosiect Cytser, Llechwedd a Cell B drefnodd ddangosiad o Y Chwarelwr yn y Twll Dwfn, Ceudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog am 7.30pm nos Sadwrn.
Cafodd Y Chwarelwr ei chynhyrchu yn 1935 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, a'r athro a'r dramodydd John Ellis Williams.
Y ddau, oedd yn poeni am ddylanwad diwylliant Americanaidd, gynhyrchodd y ffilm 37 munud o hyd am hanes teulu chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog.
'Anorffenedig'
Roedd yr actorion yn aelodau Cymdeithas Ddrama Blaenau Ffestiniog a'r dynion i gyd yn chwarelwyr.
Cafodd rîl ola'r ffilm - ryw 8 munud o'r stori - ei cholli ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Mae'n debyg mai Y Chwarelwr oedd y ffilm gynta â thrac sain Cymraeg ac roedd yn ddigwyddiad pwysig yn natblygiad y byd ffilm Cymreig.
Gan fod y ffilm wedi ei difrodi ac yn anorffenedig, yn 2006 aeth Ifor ap Glyn o Cwmni Da, ac Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol Cymru ati i'w hadfer ac ail-greu diweddglo.
Cyflwynodd Ifor y ffilm nos Sadwrn ac egluro'r broses adfer.
Roedd wedi dweud bod Syr Ifan a John Ellis Williams yn egniol iawn a bod rhaid i'r ddau "feistroli crefft newydd yn gyflym iawn".
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Rhagfyr 2006
- Published
- 9 Hydref 2006
- Published
- 29 Awst 2005