Damwain awyren: Apêl am luniau

  • Cyhoeddwyd
Bob JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Sefydlodd Bob Jones y maes awyr ddechrau'r 1990au

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio damwain awyren pan gafodd dau o bobl eu lladd wedi apelio am luniau posib gafodd eu tynnu toc cyn i'r ddamwain ddigwydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dre'r Llai ger Y Trallwng tua 12pm ddydd Mercher oherwydd damwain awyren fechan.

Dywedodd llygad-dystion fod awyren saith sedd wedi disgyn ger Cefn Digoll ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Dydi enwau'r ddau fu farw ddim wedi'u cyhoeddi gan yr heddlu.

'Tynnu lluniau'

Ond mae pobl leol yn dweud mai Bob Jones, rheolwr a sefydlydd Maes Awyr y Canolbarth a pheilot profiadol, oedd un ohonyn nhw.

Dechreuodd Yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr archwilio gweddillion yr awyren ddydd Iau.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Y gwasnaethau brys ger lleoliad y ddamwain ddydd Mercher

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ar ôl i'r maes awyr gysylltu gyda nhw yn pryderu nad oedd yr awyren wedi dychwelyd ar ôl taith fer.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Greg Williams: "Mae'r ymchwiliad ynghylch beth achosodd y drasiedi hon yn parhau.

"Rydyn ni angen help gan bobl oedd yn ardal Tre'r-llai fore dydd Mercher.

"Os oedd unrhywun yn tynnu lluniau yn yr ardal rhwng 11am a 11.30am rydyn ni am iddynt gysylltu â ni.

"Hefyd, rydyn ni am siarad ag unrhywun a glywodd yr awyren yn hedfan drostynt yn ystod yr amseroedd hyn."

Fe wnaeth Mr Jones sefydlu'r maes awyr ar ei fferm.

Fe ddatblygwyd y maes awyr ym 1990 i wasanaethau busnesau a chwmnïau hedfan lleol.

Mae hofrennydd Ambiwlans Awyr y canolbarth yn hedfan oddi yno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol