Atal cyfarfod: Dyn yn llys wedi i'r heddlu wahardd cyfarfod
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 21 oed yn Llys Ynadon Caerdydd wedi i uned gwrthderfysgaeth yr heddlu atal cyfarfod yn ardal Treganna oherwydd ofnau y gallai fod yn hyrwyddo terfysgaeth.
Cafodd y dyn o ardal Grangetown ei gyhuddo nos Wener o dan Adran 4 Deddf Drefn Gyhoeddus 1986.
Roedd trigolion yn poeni bod y rhai oedd yn trefnu'r cyfarfodydd yn gysylltiedig â'r grwp Muslims Against Crusaders.
Aeth plismyn i gyfarfod oedd wedi ei drefnu nos Iau yn Neuadd Gymunedol Treganna yng Nghaerdydd.
'Cydbwysedd'
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Matt Jukes: "Roedd y cyrch yn rhan o strategaeth ehangach i atal radicaliaeth o fewn ein cymunedau ac atal pobl fregus rhag cael eu denu at eithafiaeth a syniadau terfysgol.
"Mae angen cydbwysedd gofalus wrth amddiffyn yr hawl i fynegi barn ond mae hybu neu ogoneddu terfysgaeth yn anghyfreithlon a does dim lle i grwpiau fel Muslims Against Crusades yn Ne Cymru.
"Nid yw hon yn broblem all gael ei datrys gan blismona yn unig. Mae'n hanfodol i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod gan ein cymunedau hyder yn yr heddlu.
"Dim ond felly y bydd ganddyn nhw'r hyder i ddod at yr heddlu i drafod eu pryderon a dylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau yn bositif."
'Radicaleiddio'
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, John House: "Mae rhyddid mynegi barn yn bwysig iawn i'r cyngor ond rhaid cydbwyso hyn gyda'r angen am ddiogelwch a lles ein cymunedau.
"Roedd nifer ymhlith Moslemiaid Caerdydd wedi mynegi pryder bod mudiad wedi ei wahardd o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth 2000 yn defnyddio adeiladau'r cyngor i gynnal cyfarfodydd gyda'r potensial i radicaleiddio aelodau bregus ein cymdeithas.
"Oherwydd y pryderon, a thrwy weithio'n agos gyda Heddlu'r De, rydym wedi hysbysu'r unigolion na fyddan nhw'n cael cynnal cyfarfodydd yn adeiladau'r awdurdod."