Tân: Dymchwel capel
- Published
Mae capel yn cael ei ddymchwel wedi i 50 o ddiffoddwyr ac wyth injan dân ddelio â thân yn Abertawe.
Roedd diffoddwyr yng Nghwmbwrla am bedair awr wedi i'r frigâd dân gael gwybod ychydig ar ôl 4am fore Sadwrn.
Mae'r heddlu a'r frigâd dân yn ymchwilio i gynnau bwriadol.
Am oriau roedd Heol Caerfyrddin wedi ei chau a bu raid i naw o bobol oedd yn byw ar yr heol adael eu cartrefi.
Dywedodd un: "Roedd yn ofnadwy, llwyth o stwff ar dân yn cwympo o'n cwmpas ni."
'Fflame'n uchel'
Yn wreiddiol, cafodd Capel Libanus ei godi yn 1867 a chafodd un newydd ei godi y drws nesa iddo yn 1906. Oherwydd prinder addolwyr caeodd yn 2000.
Dywedodd Craig Thomas, rheolwr yr orsaf dân fore Sadwrn: "Daeth yr alwad gynta tua 4.20am.
"Cyrhaeddodd y criwiau yn gyflym ond roedd y fflame'n uchel.
"Yn gynta, rhag ofn, gadawodd pobol ddau dŷ am fod cols yn cwympo ar y to."
Aeth y bobol yn ôl i'w tai am 8am.
Roedd diffoddwyr yn y fan a'r lle drwy'r dydd yn sicrhau bod y tân wedi ei ddiffodd.