Wylfa B: Ffermwr yn annerch rali
- Cyhoeddwyd

Mae ffermwr sy'n gwrthod gwerthu ei dir i gwmni Horizon er mwyn codi gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn wedi annerch rali brynhawn Sadwrn.
Roedd 300 yn bresennol.
Richard Jones o fferm Caerdegog Uchaf ger Amlwch oedd yn annerch Rali yn erbyn Wylfa B yn Llangefni.
Mae ei deulu wedi ffermio yno ers 300 o flynyddoedd.
Y siaradwyr eraill oedd Carl Clowes ac Emlyn Richards o fudiad PAWB ac Angharad Tomos a Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith.
Roedd protestwyr yn ymgynnull ym Maes Parcio hen Neuadd y Sir cyn gorymdeithio drwy'r dre.
Dywedodd Mr Jones y byddai "colli 65 erw o'r tir amaethyddol gora a 20 erw arall sy'n cael eu rhentu" yn peryglu dyfodol y fferm.
Yn Nhachwedd fe gafodd ei gythruddo ar ôl derbyn llythyr Saesneg oddi wrth y corff sy'n rheoli'r diwydiant ynni.
Roedd Ofgem wedi rhoi pum diwrnod iddo ymateb i gais Horizon i gael mynd ar ei dir i wneud asesiad.
'Pryderon'
Mae Mr Jones wedi gwrthod caniatâd i'r cwmni wneud asesiad o'r tir.
Yn y cyfamser, dywedodd Richard Foxhall ar ran Horizon: "Rydyn ni wedi gwrando ar bryderon y teulu am y fferm ac am edrych ar y mater yn fanylach.
"Does dim rheswm pam na fydd y fferm yn nwylo'r teulu am genedlaethau.
"Beth bynnag yw'r sefyllfa, mae dyletswydd arnon ni i reoli'n briodol effaith y gwaith adeiladu ac rydyn ni'n awyddus i gytuno mynediad i'r pwrpas hwn.
"Hoffen ni'n fawr drafod hyn â Mr Jones ac rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni wneud hyn yn fuan iawn."
Trosglwyddo
Ym mis Hydref cyhoeddodd Horizon eu bod wedi arwyddo cytundeb oedd yn sicrhau mwy o dir yn ardal y Wylfa.
Cafodd y tir dan sylw ei drosglwyddo o ofal yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a chwmni EDF.
Ym mis Mehefin dywedodd Llywodraeth San Steffan fod Yr Wylfa yn un o wyth o safleoedd yn cael ei ystyried ar gyfer y genhedlaeth nesaf o atomfeydd.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2011
- 29 Ebrill 2009
- 23 Mehefin 2011
- 18 Hydref 2010