Cwpan Her: Dreigiau 45 Cavalieri Prato 16

Gorffennodd y Dreigiau ar nodyn gobeithiol wrth drechu Prato o 45-16 yng Nghwpan Her Amlin.

Roedd digon o dân - Buckley, Hughes, Brew, Tuilagi, Tovey, Thomas a Robling yn sgorio ceisiadau a Tovey'n trosi bum gwaith.

Ciciodd Bocchino ddwy gic gosb i'r Eidalwyr.

Yr Eidalwyr yn torri record am y rhesymau anghywir. Chwarae chwe gêm. Colli pob un.

CWPAN HER AMLIN - GRŴP 4
Tîm Ch. E. Pwyntiau
Caerwysg 6 5 23
Perpignan 6 4 18
DREIGIAU 6 3 15
Prato 6 0 0