Caerdydd 3-2 Portsmouth
- Cyhoeddwyd

Y diweddglo oedd y mwya dramatig efallai ers i Stadiwm Dinas Caerdydd agor.
Yn yr eiliadau ola sgoriodd Craig Conway i Gaerdydd, ei gôl gynta ers mis Awst, gan sicrhau tri phwynt hollbwysig.
Roedd gôl Greg Halford yn golygu bod Portsmouth ar y blaen ond peniodd capten Caerdydd, Mark Hudson, ac roedd ergyd Conway yn ffyrnig o 35 llath.
Trueni am y cefnogwyr adawodd yn gynnar. Fe gollon nhw wledd.
Hwb fawr i'r Adar Gleision cyn herio Crystal Palace nos Fawrth.