Wrecsam ar y brig o hyd
- Cyhoeddwyd

Wrecsam4Kettering 1
Mae Wrecsam ar frig y tabl wedi ei seithfed fuddugoliaeth yn olynol.
Sgoriodd Andy Morrell wedi pum munud, ei chweched y tymor hwn a chreodd James Colbeck argraff yn ei gêm gynta wrth rwydo ddwywaith.
Mae'r sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth i Kettering, heb ennill mewn 13 o gemau.
Wrecsam, ar y llaw arall, yn mynd o nerth i nerth.
Casnewydd 0 Forest Green 0
Llwyddodd Casnewydd i sicrhau pwynt er bod 10 chwaraewr ar y cae.
Wedi 32 o funudau cafodd Ismail Yakubu gerdyn melyn oherwydd chwarae brwnt.
Elliott Buchanan a Nathaniel Jarvis gafodd y cyfle gorau ond arbedodd Sam Russell yn wych.
Cael a chael yw hi, Casnewydd bwynt yn glir o lithro o'r adran.
Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2011