Buddugoliaeth i'r Gleision

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Brwydr ffyrnig: Warburton a Chabal

Gleision36-30 Racing Metro

Roedd hon yn gêm gyffrous am fod Racing ar y blaen o 24-23 ar yr egwyl.

Lloyd Williams ac Alex Cuthbert (ddwywaith) sgoriodd geisiadau'r tîm cartre a Halfpenny giciodd weddill y pwyntiau.

Matavesi a Sereli Bobo groesodd y llinell i'r ymwelwyr.

Roedd Casey Laulala, canolwr Caerdydd, yn bygwth yn aml.

Yn anffodus, bu raid i brop Cymru, Gethin Jenkins, adael y cae oherwydd anaf i'w ben-glin.

Buddugoliaeth i Gaerdydd ond yn lle herio Clermont Auvergne gartre yn yr wyth ola maen nhw'n wynebu taith i Leinster.

CWPAN HEINEKEN - GRŴP 2
Tîm Ch. E. Cyf. Colli Bonws Pwyntiau
Caeredin 6 5 0 1 2 22
GLEISION 6 5 0 1 1 21
Racing Metro 6 1 0 5 5 9
Gwyddelod Llundain 6 1 0 5 5 9