Trenau: Oedi yn dilyn damwain
- Published
Mae oedi i wasanaethau trên ac mae ffordd wedi'i chau wedi i lori daro clwyd croesfan yn Sir Gâr.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod ffordd y B4327, Stryd Sant Ioan yn Hendy-gwyn ar Daf, yn debygol i fod ynghau rhwng Stryd y Santes Fair a Ffordd Felffre fore Llun.
Digwyddodd y ddamwain tua 6:30pm ddydd Sul.
Dywed yr heddlu fod cwmni Trenau Arriva Cymru fod oedi i'w gwasanaethau trên oherwydd difrod i'r groesfan.
Bu gwrthdrawiad rhwng trên a lori wair ar groesfan yn Llanboidy - bum milltir o Hendy-gwyn ar Daf - ym mis Rhagfyr y llynedd.
Cafodd pump o bobl eu trin yn yr ysbyty am anafiadau mân yr adeg hynny.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol