Tylino troednoeth i'r Paralympwyr
- Cyhoeddwyd

Mae menyw gyda breichiau byr oherwydd i'w mam gymryd y cyffur thalidomide tra'n feichiog wedi ei chyflogi gan y Gemau Paralympaidd i roi tyliniadau i'r athletwyr gyda'i thraed.
Ganed Sue Kent, 49, o Abertawe gyda breichiau wyth modfedd o hyd. Mae hi'n credu mai hi yw'r unig dylinwraig ym Mhrydain gyda'r cymwysterau i weithio yn y dull yma.
Dywedodd Sue: "Mae o wedi bod yn freuddwyd i mi i fod yn rhan o'r Tîm Paralympaidd," gan ychwanegu ei bod hi'n deall y straen y mae chwaraeon yn ei roi ar gyrff athletwyr gydag anabledd.
Yn ogystal â breichiau byr, dim ond saith bys sydd gan Mrs Kent ar ôl i'w mam gymryd y cyffur thalidomide i atal salwch tra'n feichiog.
Amheus
Wrth astudio tylino chwaraeon yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC), dywedodd Sue bod rhai tiwtoriaid yn amheus o'i gallu i gynnig therapi gyda'i thraed.
"Roeddwn yn benderfynol o oresgyn yr holl heriau a chanfod ffordd fy hun o weithio," meddai.
"Mae'r rhan helaeth o'r bobl dwi wedi eu trin yn amheus i gychwyn, ond yna maen nhw'n dweud ei bod yn teimlo fel un llaw fawr - ond yn well gan fy mod yn gallu gweithio ar arwynebedd mwy o'r corff.
"Dwi'n trin lot o ddynion, gan gynnwys codwyr pwysau gan fy mod yn gallu rhoi tyliniad cadarn iawn.
"Mae'n rhaid i mi ddefnyddio bysedd fy nhraed er mwyn trin pwyntiau penodol ar y corff ond mae'n rhaid ei mi hefyd wneud y gwddw, ac felly bod yn fwy tyner.
Ysbrydoliaeth
"Mae llaesu'r cyhyrau yn hwyl gan fy mod yn gorfod rhoi traed y bobl o dan fy ngheseiliau!"
Trodd Mrs Kent at dylino pan roddodd y gorau i'w gwaith ym myd marchnata er mwyn gofalu am ei rhieni yn eu henaint. Daeth ei thalent i'r amlwg ar ôl cynnig tyliniad i'w mab ar ôl iddo frifo'i gefn wrth hwylio.
Derbyniodd ei chymwysterau proffesiynol dair blynedd yn ôl a chynyddodd ei phrofiad o dylino chwaraeon trwy helpu allan mewn rasys triathlon a'r gystadleuaeth Ironman.
"Pan gefais wybod fy mod wedi cael fy nerbyn i fod yn rhan o'r tîm Gemau Paralympaidd roeddwn wedi cyffroi gan ei fod yn nod personol i mi," meddai Mrs Kent, sy'n gweithio yn Abertawe a Llundain gyda'i chwmni, Enjoyfeet.
"Roeddwn am weld os gallaf fod yn rhan o chwaraeon ar lefel uwch mewn rhyw ffordd.
"Roeddwn i hefyd eisiau codi proffil pobl anabl mewn ffordd wahanol. Dwi'n gobeithio ysbrydoli eraill trwy dangos nad oes rhaid aros mewn swydd sydd jest yn golygu eistedd tu ôl i ddesg ac o flaen cyfrifiadur."
Bydd Sue Kent hefyd yn cymryd rhan yn y Sialens Geltaidd fel cocs tîm Clwb Rhwyfo'r Mwmbwls sydd am geisio croesi Môr Iwerddon ym Mai 2012.