Dizzee am ddychwelyd i Wakestock
- Cyhoeddwyd

Bydd Dizzee Rascal a'r canwr Calvin Harris yn dychwelyd i ŵyl Wakestock eleni.
Mae'n sicr bydd y rapiwr o Lundain yn falch y bydd y prif lwyfan dan do y tro yma ar ôl iddo berfformio yn y mwd a'r glaw yn 2009.
Dywedodd un o'r trefnwyr, Bex Tappin: "Mae Dizzee yn ffefryn i Wakestock ar ôl dod i'n gweld ni yn 2009 ac yn ogystal â bod yn ddyn gwych, fe lwyddodd i gyffroi'r dorf gyda chaneuon fel Bonkers a Dance Wiv Me."
Ychwanegodd Ms Tappin bod set Calvin Harris yn "brofiad i'w fwynhau" ac roedd hi'n sicr y byddai'r Albanwr yn "Dechrau'r parti yn 2012.
Mae'r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi y bydd Ed Sheeran, sydd wedi ei enwebu am bedair gwobr Brit, yn chwarae ar y prif lwyfan tro yma ar ôl ymddangos ar lwyfan llai'r llynedd.
Gwyntoedd
Cynhelir yr ŵyl, sydd yn ei 13eg blwyddyn, rhwng 6 a 8 Gorffennaf ar gaeau ym Mhenrhos, rhwng Pwllheli ag Abersoch.
Oherwydd trafferthion gyda gwyntoedd cryfion, mae'r trefnwyr eto wedi penderfynu cynnal y digwyddiad mewn tair pabell ar y safle.
Maent hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn parhau i roi cyfle i fandiau lleol fod yn rhan o'r ŵyl.
Bydd y gystadleuaeth tonfyrddio rhyngwladol yn parhau i ddigwydd ym Mhwllheli. Mae'r trefnwyr yn dweud y byddant yn cyhoeddi'r cystadleuwyr, yn ogystal â rhagor o berfformwyr, yn y wythnosau i ddod.