Carchar ar ôl twyllo merch 6 oed i ddwyn o dŷ
- Cyhoeddwyd

Mae dynes 23 oed wedi cael ei charcharu am 20 mis ar ôl twyllo merch 6 oed i dorri mewn i dŷ yn Abertawe.
Roedd Karen Richards wedi addo rhoi arian i'r ferch petai'n dringo drwy ffenest y tŷ - ar ôl esgus ei bod hi wedi colli ei hallweddi.
Ond clywodd Llys y Goron Abertawe bod Richards eisiau i'r ferch ddatgloi'r drws ffrynt er mwyn iddi fynd i mewn a dwyn.
Roedd Richards wedi cyfaddef i achos o fwrgleriaeth ond roedd hi'n gwadu cyhuddiad o gipio plentyn.
Digwyddodd y drosedd honedig ym mis Awst 2011.
Dywedodd yr erlynydd, Brian Simpson, fod y ferch - na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol - yn chwarae y tu allan i dŷ ffrind.
'Gliniadur'
"Fe ddaeth Richards ati a dweud wrthi petai'n ei chynorthwyo i fynd i mewn i'r tŷ y byddai'n cael arian," meddai Brian Simpson ar ran yr erlyniad.
"Fe wnaeth y ferch gytuno ac aeth i mewn drwy ffenest yng nghefn y tŷ."
Clywodd y llys i Richards helpu'r ferch.
"Gofynnodd Richards i'r ferch ddatgloi drws ffrynt y tŷ ond fe fethodd hi," ychwanegodd Mr Simpson.
"Gofynnodd i'r ferch estyn gliniadur drwy'r ffenest.
"Llwyddodd y ferch i wneud hyn cyn iddi gael cymorth Richards i ddod allan o'r tŷ."
Dywedodd iddi gerdded i ffwrdd a gadael y ferch i barhau i chwarae yn y stryd.
'Ddim yn erbyn ei hewyllys'
"Doedd Karen Richards ddim yn byw yn y tŷ, fe ddefnyddiodd y ferch i fynd i mewn i'r eiddo a dwyn y glaniadur," meddai Mr Simpson.
Clywodd y llys bod Richards wedi cael ei harestio ar ôl i'w DNA gael ei ganfod ar sgriwdreifer a gafodd ei adael yn y fan a'r lle.
Mewn amddiffyniad, fe wnaeth Richards honni bod y plentyn eisiau helpu ac nad oedd hyn yn erbyn ei hewyllys.
Ond gwrthododd y rheithgor hyn.
Deng munud y cymrodd y rheithgor i'w chael yn euog.
Wrth ei charcharu dywedodd y barnwr Christopher Clee QC iddi ddefnyddio'r ferch fach i dorri mewn i'r tŷ a "hynny heb unrhyw feddwl am y perygl."