Sylwadau Freedman yn sbardun i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, yn honni bod sylwadau ei wrthwynebydd wedi bod yn help i sbarduno'i dîm cyn rownd gynderfynol Cwpan Carling nos Fawrth.
Mae Dougie Freedman, rheolwr Crystal Palace, wedi codi amheuon am allu chwaraewyr Caerdydd mewn gemau mawr.
Mae Palace ar y blaen o 1-0 wedi cymal cyntaf y rownd gynderfynol bythefnos yn ôl.
Dywedodd Freedman: "Mae'n rhaid bod eu cefnogwyr ofn methu eto," mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Croydon Advertiser.
Ymateb Mackay oedd: "Yn amlwg mae rhan bwysig o'r anerchiad i'r tîm wedi ei wneud yn barod!"
Mae Mackay yn credu na fydd angen mwy o sbardun ar ei dîm i gyrraedd Wembley er gwaethaf sylwadau Freedman.
Brwydr seicolegol
Yn ei golofn yn y papur, ychwanegodd Freedman: "Mae Caerdydd yn gwybod yn iawn sut beth yw boddi wrth ymyl y lan.
"Rwyf wedi eu gweld yn gwneud hynny gymaint o weithiau dros y tymhorau diwethaf.
"Pan ydych o dan straen, mae'n anodd peidio cofio am y gorffennol, a phan ydych yn meddwl am eu hanes o gael eu curo mewn gemau ail gyfle neu ffeinal mae'n rhaid bod yr atgofion yn rhai anhapus."
Ceisiodd Mackay i beidio cael ei ddenu i ganol brwydr seicolegol, ond dywedodd: "Rwy'n edrych ar ôl fy nghlwb fy hun.
"Dyw siarad am glybiau eraill ddim yn rhywbeth yr ydw i'n ei wneud.
"Mae gen i ddigon ar fy mhlât yn delio gyda'r clwb yma yn hytrach na beth ydw i'n feddwl o dimau eraill a'u chwaraewyr."
Blaenoriaeth
Mynnodd ymosodwr Caerdydd, Kenny Miller, na fyddai beirniadaeth Freedman yn cael effaith ar ei gyd-chwaraewyr.
"Does dim angen sbardun pellach yn fwy na cheisio mynd i rownd derfynol y gwpan," meddai.
Roedd yn derbyn na fyddai llwyddo yn hawdd gan fod ei dîm ar ei hôl hi wedi'r cymal cyntaf ym Mharc Selhurst.
Dywedodd Miller: "Fe fydd hi'n anodd yn enwedig o weld sut mae Crystal Palace yn chwarae.
"Y bencampwriaeth yw'r flaenoriaeth does dim dwywaith am hynny, ac ennill dyrchafiad yw'r prif nod am eleni, ond fe fyddai taith fach i Wembley yn brofiad hyfryd, ac fe fyddai ennill cwpan yn wych."
Caerdydd v Crystal Palace, Stadiwm Dinas Caerdydd, nos Fawrth 7.45pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2012