Gŵyl y Faenol yn ôl ... yn Llundain
- Cyhoeddwyd

Bydd Gŵyl y Faenol yn dychwelyd yn 2012 - ond yn Llundain!
Datgelodd y bariton Bryn Terfel ar wefan Twitter y byddai'r Ŵyl yn dychwelyd ym mis Gorffennaf am bedair noson.
Ond yn ddiweddarach datgelwyd mai yng Nghanolfan Southbank yn Llundain y bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol.
Nid yw'r Ŵyl wedi cael ei chynnal ar ei safle gwreiddiol ers 2008 - blwyddyn a'i gwelodd yn gwneud colledion ariannol.
Fe drefnwyd Gŵyl arall yn 2010, ond cafodd honno ei chanslo ar y funud olaf oherwydd gwerthiant tocynnau siomedig.
Pedair noson
Yn dilyn trefn yr Ŵyl wreiddiol, bydd Gŵyl Faenol Llundain yn cynnwys pedair noson o gerddoriaeth opera, theatr gerdd, comedi a cherddoriaeth pop, gydag artistiaid Cymraeg a di-Gymraeg yn ymuno gyda Bryn Terfel ar y llwyfan.
Mae disgwyl i'r artistiaid gael eu cyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf.
Cafodd yr Ŵyl ar ei newydd wedd ei disgrifio mewn datganiad i'r wasg fel "dathliad o ddiwylliant Cymraeg" ac yn "ymdrech i ail-greu cyffro ac anffurfioldeb Gŵyl y Faenol yng Ngogledd Cymru".
Bydd cyfle i ymwelwyr fwynhau diwylliant Cymru drwy ddigwyddiadau darllen barddoniaeth, gweithdai iaith Gymraeg, marchnad fwyd Cymreig a gweithdai cerdd gan gynnwys prosiect corawl gyda Voicelab Canolfan Southbank.
Bydd yr Ŵyl yn ymestyn o Orffennaf 4ydd i'r 7ed, 2012 fel rhan o Ŵyl y Byd Canolfan Southbank.
Straeon perthnasol
- 5 Awst 2010
- 12 Mai 2010
- 7 Gorffennaf 2010
- 30 Mehefin 2010
- 28 Ebrill 2010
- 18 Mehefin 2009