BBC Cymru Fyw

Awyren: Heddlu'n cadarnhau enwau

Published
image copyrightOther
image captionRoedd Bob Jones yn ddyn busnes uchel ei barch
Mae'r heddlu wedi cadarnhau enwau'r ddau ddyn fu farw mewn damwain awyren ger Y Trallwng yr wythnos ddiwethaf.
Mae teuluoedd Bob Jones, 60 oed o'r ardal, a Steve Carr, 55 oed o Ruthun, wedi talu teyrngedau iddyn nhw.
Lladdwyd y ddau pan blymiodd awyren fechan i'r ddaear ger Tre'r Llai.
Roedd Mr Jones yn ddyn busnes uchel ei barch a Mr Carr yn beilot profiadol.
Dywedodd teulu Mr Jones: "Mae Linda a'r teulu wedi eu tristau a'u syfrdanu gan farwolaeth Bob Jones.
"Roedd yn ŵr, tad a chyfaill annwyl. Roedd yn angerddol am hedfan, ac yn uchel ei barch yng nghymuned canolbarth Cymru a thu hwnt.
"Hoffai'r teulu nawr gael llonydd i ymdopi gyda'u colled."
image copyrightOther
image captionRoedd Steve Carr, 55 oed, yn beilot profiadol

'Colled enfawr'

Ychwanegodd teulu Mr Carr: "Mae teulu a chyfeillion Steve wedi eu chwalu gan y newyddion.
"Roeddem yn ei garu ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl.
"Nid oes geiriau i ddisgrifio ei rinweddau fel tad cariadus a ffyddlon, gwr, brawd a chyfaill.
"Mae'r byd yn dlotach o lawer o'i golli.
"Mae'r teulu yn galaru, ac yn dymuno llonydd i wneud hynny'n breifat."

Straeon perthnasol

  • Damwain awyren: Apêl am luniau