Anafiadau difrifol wedi damwain yn Sir Gaerfyrddin

Cafodd dyn ei ryddhau o'r car cyn ei gludo i'r ysbyty Image copyright Other
Image caption Cafodd dyn ei ryddhau o'r car cyn ei gludo i'r ysbyty

Cafodd dyn ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl cael anafiadau difrifol mewn damwain yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng car a thractor ar yr A40 ger Caerfyrddin ddydd Llun tua 2.40pm.

Fe fu'r ffordd ar gau am rai oriau gan achosi tagfeydd yn yr ardal am gyfnod.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans awyr roedd y dyn yn ei 40au ac mae ganddo anafiadau difrifol.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân y Canolbarth a'r Gorllewin ei ryddhau o'r cerbyd.

Cafodd driniaeth yn y fan a'r lle cyn cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.