Arddangos ceiniogau canoloesol yn Wrecsam
- Published
Mae cronfa o arian canoloesol gafodd ei ddarganfod yn Wrecsam yn 1926 yn cael ei arddangos yn y dref am y tro cyntaf.
Cafodd yr arian ei ddatgladdu o jwg mewn gardd tŷ ar Ffordd Caer cyn cael eu rhoi i Amgueddfa Cymru.
Mae'r ceiniogau Seisnig yn dyddio'n ôl i deyrnasiad Rhisiart I (1189-99), John (1199-1216) a Harri III (1216-72).
Dywed arbenigwyr y gallai'r ceiniogau wedi eu claddu i'w cadw'n ddiogel yn ystod yr 1240au.
Cwest
Dywedodd Jonathon Gammond o Amgueddfa Wrecsam fod cronfa Wrecsam wedi ei dangos i nifer bychan o bobl gan gynnwys rheolwr banc wedi iddi gael ei darganfod yn ardd y tŷ.
Cafodd y tŷ ei werthu mwy na 40 mlynedd yn ddiweddarach a darganfuwyd y gronfa mewn jwg gan berchennog newydd y tŷ.
Roedd y cyn-berchennog wedi gadael y gronfa yn y jwg am ei fod yn meddwl bod y ceiniogau yn gysylltiedig â'r tŷ.
Cafodd yr heddlu eu hysbysu o fodolaeth y gronfa gan y perchennog newydd ac yn dilyn cwest penderfynwyd mai ef oedd yn berchen ar yr arian.
Ond penderfynodd roi'r casgliad i Amgueddfa Cymru.
Mae'r ceiniogau wedi eu dychwelyd i Wrecsam fel rhan o arddangosfa o'r enw Meddyliau Canoloesol.
Mae modd dangos casgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol yn Wrecsam yn sgil cynllun gwerth £2m i adfer yr amgueddfa'r llynedd.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Ionawr 2012
- Published
- 14 Mai 2011
- Published
- 18 Gorffennaf 2011