Cyhuddo dyn o ymosod yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn Abertawe wedi cyhuddo dyn o ymosod ar ôl digwyddiad yn ardal Townhill o'r ddinas.

Fe wnaeth dyn 46 oed agor drws ffrynt ei gartref tua 9.25pm ddydd Mawrth Rhagfyr 13 2011.

Cafodd ei drywanu sawl gwaith.

Aed ag o i Ysbyty Treforys am driniaeth.

Mae dyn 34 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad gan Heddlu De Cymru.

Cafodd ei gyhuddo o ymosod ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen ynadon Abertawe ar Chwefror 7 2012.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol