Croeso gan y Lefarydd i fyfyrwyr

Y myfyrwyr yn Senedd Cymru Image copyright Other
Image caption Mae’r myfyrwyr eisoes wedi darllen eu pennill am yr amgylchedd yng Nghaerdydd

Cafodd grŵp o fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu o Goleg Gwent wahoddiad gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin i ymweld ag ef yn ei swyddfa yn Llundain.

Roedd y bobl ifanc o'r Adran Sgiliau Byw yn Annibynnol hefyd yn cael mynd i 10 Stryd Downing am daith o amgylch cartref y Prif Weinidog.

Ar ôl cwrdd â'r Llefarydd John Bercow, roedden nhw'n perfformio pennill arbennig am yr amgylchedd yn San Steffan.

"Mae o'n gyfle gwych iddyn nhw," meddai Victoria English, eu tiwtor sgiliau cyn yr ymweliad.

"Maen nhw'n edrych ymlaen at weld yr holl bethau yn San Steffan ac adrodd eu pennill.

"Y llynedd fe fu'r criw ar ymweliad â'r Senedd yng Nghaerdydd ac fe wnaethon nhw adrodd y pennill o flaen Jane Davidson, y Gweinidog Amgylchedd ar y pryd."

Ar ôl ymweld â Stryd Downing, roedd y grŵp yn mynd draw i Ysbyty Stryd Great Ormond i gyflwyno siec o £450 er cof am Craig Waters, mab un o aelodau staff yr Adran Sgiliau Byw yn Annibynnol.

"Rydym wedi codi arian er cof am Craig gan iddo dderbyn gofal mor dda yn yr ysbyty."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.