Dau ffrind wedi marw'n ddamweiniol oddi ar arfordir Môn

Lewis Darroch a Callum Mackay Image copyright Other
Image caption Roedd Lewis Darroch a Callum Mackay wedi bod yn pysgota

Cafodd cwest ei gynnal ar ôl i ddau ffrind foddi oddi ar arfordir Ynys Môn y llynedd.

Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ar Callum MacKay a Lewis Darroch.

Cafwyd hyd i gyrff y ddau, a oedd yn 22 oed, yn y môr.

Roedd y ddau wedi mynd i drafferthion yn y môr ym Mhorth Trecastell, i'r de o Rosneigr ar Awst 24 2011.

Roedd y ddau ffrind wedi mynd i bysgota.

Y gred yw bod un o'r dynion wedi mynd i nofio yn y môr a bod y llall wedi ceisio ei helpu pan aeth i drafferth.

Cafodd Mr Darroch ei achub o'r môr ar y nos Fercher ond bu farw erbyn cyrraedd yr ysbyty.

Bu Mr MacKay ar goll yn y môr am dros wythnos.

Clywodd y cwest yn Llangefni ddydd Mawrth bod Lewis Darroch wedi ei enwebu am wobr dewder wedi ei farwolaeth gan Sefydliad Carnegie.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.