Wrecsam yn disgyn o'r brig

Published
image copyrightOther

Forest Green 1-0 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi disgyn o frig Uwchgynghrair Blue Square ar ôl colli yn erbyn Forest Green nos Fawrth.

Ar yr un pryd, roedd Fleetwood - oedd yn ail - yn ennill yn erbyn Braintree.

Oherwydd anafiadau, roedd Wrecsam heb nifer o ymosodwyr, ac roedd hynny'n dangos.

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, aeth Forest Green ar y blaen wedi dim ond tri munud o'r ail hanner.

Matty Taylor gafodd y gôl i'r tîm cartref.

Er i Wrecsam ymdrechu'n galed, roedd un ergyd greulon arall iddyn nhw.

Cafodd Wrecsam gic o'r smotyn wedi chwe munud o amser ychwanegol am anafiadau.

Y dyn a gamodd ymlaen i gymryd y gic oedd Dean Keates - ei fethiant yntau o'r smotyn olygodd bod Wrecsam wedi colli yng Nghwpan yr FA yn erbyn Brighton.

Ac unwaith eto, methu wnaeth Keates gyda'r cyfle i gipio'r pwynt fyddai wedi cadw Wrecsam ar frig y tabl.

Tabl Uwchgynghrair Blue Square Bet

Ionawr 24, 10.00 pm

image copyrightOther

Worksop 1-3 Casnewydd

Tra bod Wrecsam yn brysur yn y gynghrair, roedd gan Gasnewydd gêm oedd wedi cael ei gohirio ddwywaith yn Nhlws yr FA yn erbyn Worksop.

A'r tro hwn roedd y daith i Worksop yn un llewyrchus i dîm Justin Edinburgh, gan i Gasnewydd gael buddugoliaeth gyfforddus o 3-1.

Casnewydd fydd yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf felly, ond y newyddion drwg iddyn nhw yw bod canlyniadau timau eraill yn Uwchgynghrair Blue Square Bet yn golygu eu bod nhw bellach yn isaf ond un yn y tabl er fod ganddynt ddwy gêm wrth gefn.