Gethin Jenkins 'allan am bum wythnos'

Gethin Jenkins Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gethin Jenkins yn cael triniaeth i'w ben-glin adeg gêm Racing Metro

Mae Tîm Rygbi Cymru wedi cadarnhau na fydd Gethin Jenkins ar gael ar gyfer dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i'w ben-glin.

Y disgwyl yw na fydd yn chwarae am hyd at bum wythnos.

Er bod Rhys Priestland a Dan Lydiate wedi cael anafiadau dros y penwythnos, mae posibilrwydd y bydd y ddau ar gael ar gyfer y gêm gyntaf yn Nulyn.

Mae'r newyddion am Jenkins yn ergyd gan fod Luke Charteris, Alun-Wyn Jones a Lloyd Burns allan o'r gystadleuaeth gyfan yn barod.

Mae'r garfan 35 dyn yng Ngwlad Pwyl ar gyfer gwersyll ymarfer sy'n debyg i'r un yr aeth Cymru iddo cyn Cwpan y Byd yn yr hydref.

'Ail-danio'

Bydd rhaid i Gymru ddewis tîm heb Shane Williams yn eu rhengoedd am y tro cyntaf ers blynyddoedd, ond mae'r hyfforddwr cynowrthwyol, Rob Howley, yn ymwybodol o'r dasg sy'n wynebu'r garfan.

"Rhaid i ni gofio ein bod wedi methu yng Nghwpan y Byd. Fe gollon ni yn y rownd gynderfynol, ac mae'n rhaid i ni ail-danio'r brwdfrydedd oedd gennym cyn y gystadleuaeth honno.

"Mae mynd yn ôl i Wlad Pwyl yn rhan o hynny ac mae cyflwyno wynebau newydd yn gwneud i bobl sylweddoli na allawn ni orffwys ar ein rhwyfau.

"Mae creu cystadleuaeth am le yn y tîm yn allweddol i'r hyn y byddwn yn ei wneud yn Gdansk ac yn y bencampwriaeth ei hun."

Sbardun

Fe enillodd Cymru yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd ac roedd Howley'n credu y byddai hynny'n sbardun i'r Gwyddelod cyn croesawu Cymru ar Chwefror 5.

"Rhaid i ni feddwl yn y ffordd gywir ar Chwefror 5 oherwydd does dim dwywaith y bydd hwn yn dîm Gwyddelig gwahanol i'r un ddaeth i rownd wyth olaf Cwpan y Byd.

"Mae'r disgwyliadau bob tro'n uchel ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - mae yna ryw syniad hudol o weld Cymru'n gwneud yn dda."

Straeon perthnasol