Salmond: Geiriad y cwestiwn
- Cyhoeddwyd
Wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer refferendwm annibyniaeth, mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud beth fydd geiriad cwestiwn y papur pleidleisio.
"Y cwestiwn i bobl ein gwlad," meddai Alex Salmond, "yw 'A ydych chi'n cytuno y dylai'r Alban fod yn wlad annibynnol'?"
Dywedodd wrth Aelodau Seneddol yr Alban fod y cwestiwn yn "fyr, yn uniongyrchol a chlir."
Ychwanegodd y dylai rhai 16 ac 17 oed bleidleisio.
Ei fwriad yw cynnal pleidlais yn 2014 ar gost o £10m ac mae ymgynghoriad yn gofyn a yw pleidleiswyr o blaid ail gwestiwn am fwy o bwerau.
Mwya pwysig
Y penderfyniad hwn, meddai, fyddai'r un mwya pwysig i bobl yr Alban ers 300 mlynedd.
"Felly mae'n bwysig fod y bleidlais yn cwrdd â'r safonau ucha o ran tegwch, tryloywder a phriodoldeb.
"Mae ein cenedl ni wedi ei bendithio ag adnoddau cenedlaethol, pobl ddisglair a chymdeithas gref.
"Ac mae ein system addysg, system gyfreithiol a'n Gwasanaeth Iechyd yn annibynnol.
"Mae'r byd yn eu parchu. Os gallwn ni greu cyswllt rhwng cyfoeth ein tir a lles ein pobl, gallwn ni greu gwell gwlad."
Dywedodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie: "Annibyniaeth yw prif bwnc ei lywodraeth tra bod diweithdra a chostau cynyddol yn broblemau mawr yn eim gwlad.
"Dwi i eisiau bod yn aelod o deulu'r Deyrnas Gyfunol a rhannu pob risg a gwobr mewn byd stormus."
'Undod newydd'
Ar ddiwedd ei araith dywedodd Mr Salmond: "Fe fydd annibyniaeth yn golygu undod newydd gyda chenhedloedd eraill yr ynysoedd hyn.
"Y Frenhines fydd pennaeth y wladwriaeth o hyd.
"Ond ni fydd ein dynion a menywod ifanc yn cael eu llusgo i mewn i ryfeloedd anghyfiawn fel un Irac ac ni fydd arfau niwclear ar ein tir."
Dywedodd Johann Lamont, Arweinydd Plaid Lafur yr Alban, fod Mr Salmond wedi gwrthod trafodaethau a bod rhai'n ofni na fyddai'r broses yn deg.
"... hwn yw ei bedwerydd gynnig o ran papur ymgynghori sy'n llawn o asesiadau gwleidyddol."