Côr newydd i angladdau yn unig
- Cyhoeddwyd

Mae côr arbennig wedi cael ei ffurfio ym Mangor fydd yn canu mewn angladdau yn unig.
Y gweinydd angladdau, Tim Clark, sydd wedi dod a'r 16 canwr at ei gilydd i ffurfio Threnody.
Mae'r tueddiad i chwarae cerddoriaeth pop mewn angladdau wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda My Way gan Frank Sinatra ymhlith y mwyaf poblogaidd.
Ond yn ôl Mr Clark, mae yna alwad cynyddol am gantorion hefyd, yn enwedig i ganu emynau poblogaidd megis Calon Lân.
Ystyr Threnody yw cân neu gerdd galar a daw'r aelodau o Gôr Cymunedol Bangor. Bydd y côr yn perfformio mewn angladdau seciwlar, yn ogystal â rhai gyda naws ysbrydol.
Traddodiad
"Y person yn unig yw canolbwynt angladd secwlar," eglurodd Mr Clark o Fiwmares a gafodd ei hyfforddi i gynnal angladdau gan Gymdeithas Dyneiddiaeth Brydain.
"Nid oes yna fformat ffurfiol a'u bywyd nhw sydd wrth galon y gwasanaeth.
"Mae nifer o angladdau o'r fath mewn amlosgfa lle nad oes traddodiad o ganu corawl. Ein nod ni yw newid hynny, ac annog pobl i ymuno â ni mewn cân.
"Yn fwy aml rŵan mae pobl eisiau clywed canu, yn ogystal â cherddoriaeth wedi ei recordio."
Mae repertoire Threnody yn cynnwys ffefrynnau megis Calon Lân ac Ar Hyd y Nos.
Dywedodd y cantorion Pauline Down a Colin Douglas, sydd wedi cynorthwyo hyfforddi'r grŵp: "Yr hyn sy'n bwysig o'n safbwynt ni yw nid y gwahaniaethau rhwng credoau pobl, ond eu hangen cyffredinol a dynol i alaru'r un sydd wedi marw, ac i ddathlu ei bywydau."
Mae'r côr eisoes wedi ymarfer yn amlosgfa Bangor a Bae Colwyn. Maent yn hapus i berfformio am ddim, er rhaid talu costau teithio.