Carreg filltir i apêl Fred Keenor
- Published
Mae cynllun i godi cofeb i un o sêr pêl-droed y gorffennol gam yn nes at gael ei wireddu.
Mae pwyllgor wedi casglu £45,000 er mwyn codi cofeb i'r cyn-chwaraewr o Gaerdydd, Fred Keenor, y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fred oedd capten Tîm Pêl-droed Caerdydd yn 1927, y flwyddyn yr enillodd y clwb Gwpan FA Lloegr.
Yn ôl Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, mae'r swm yn garreg filltir gan y byddan nhw nawr yn medru ymgeisio am £15,000 gafodd ei glustnodi gan Gyngor Caerdydd.
Craig Bellamy yw noddwr Pwyllgor Apêl y Gofeb.
Dywedodd rheolwr prosiect yr apêl, David Craig: "Diolch i gefnogaeth wych gan gefnogwyr yr Adar Gleision rydym wedi cyrraedd ein targed cyntaf o £45,000.
"Mae hyn yn ein galluogi i ymgeisio am arian gan Gyngor Caerdydd unwaith rydym wedi cael y derbynebau am y gwaith a wnaed gan yr artist Roger Andrews.
"Ond fydd 'na ddim llaesu dwylo wrth gasglu arian. Mae angen £25,000 arall yn ychwanegol at gyfraniad y cyngor gan y bydd y gofeb yn costio £85,000.
"Mae gan Fred a thîm llwyddiannus 1927 le arbennig iawn yn hanes y clwb," meddai Mr Craig.
"Fe greodd Fred argraff arbennig wrth arwain ei wlad.
"Dwi'n edrych ymlaen at y diwrnod y bydd y gofeb y tu allan i'r stadiwm yn y brifddinas."
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Rhagfyr 2010