BBC Cymru Fyw

Pennaeth Canolfan y Mileniwm i adael ei swydd

Published
image copyrightOther
image captionDechreuodd Mark Taylor ar ei swydd ym Medi 2010

Ar ôl treulio llai na deunaw mis fel prif weithredwr Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, mae Mark Taylor wedi cyhoeddi ei fod am adael y swydd.

Mae'r Ganolfan yn dweud mai bwriad Mr Taylor yw dilyn llwybrau newydd ym myd digwyddiadau busnes rhyngwladol, ac adloniant.

Maen nhw'n dymuno'n dda iddo i'r dyfodol.

Fe wnaeth olynu Judith Isherwood, prif weithredwr cyntaf Canolfan y Mileniwm, adawodd i ddychwelyd i Awstralia.

'Symud ymlaen'

Cyn dechrau ar ei swydd ym Medi 2010, ef oedd cyfarwyddwr masnachol a lleoliadau i'r Barbican yn Llundain.

Dechreuodd Mr Taylor ei yrfa yn y diwydiant teithio, cyn arbenigo ym maes rheoli cynadleddau a lleoliadau.

Rhwng 1985-1990 roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan Confensiynau ac Ymwelwyr Sydney.

Fel rhan o'r swydd honno, cyfrannodd yn uniongyrchol at yr ymdrech lwyddiannus i sicrhau bod Sydney yn un o gyrchfannau confensiynau mwyaf blaenllaw'r byd.

Ymunodd â Grŵp Wembley yn 1990, fe'i dyrchafwyd i swydd Cyfarwyddwr Gwerthiannau a Marchnata Wembley International.

Fe wnaeth ymuno â'r Barbican fel Cyfarwyddwr Masnachol yn 1996.

Straeon perthnasol

  • Un o Awstralia'n ben ar Ganolfan y Mileniwm