56 o swyddi'n cael eu colli

  • Cyhoeddwyd

Mae undeb Unite yn dweud y bydd 56 o swyddi'n cael eu colli ym Mlaenau'r Cymoedd mewn ffatri sy'n cynhyrchu deunyddiau pacio ar gyfer cryno ddisgiau a gemau cyfrifiadurol.

Yn ôl yr undeb mae gweithwyr yn safle A.G.I Shorewood ar stad ddiwydiannol Rasau yng Nglyn Ebwy wedi cael clywed y bydd y ffatri'n cau.

Dyw'r cwmni ddim wedi gwneud sylw hyd yma.

Ond daeth newyddion gwell o ran swyddi gan gwmni ynni solar fydd yn creu 100 o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r Green Home Company, sy'n gosod paneli solar, yn creu 50 o swyddi nawr gyda chynlluniau i ddyblu hynny erbyn diwedd Chwefror.

Mae pencadlys y cwmni ym Maidstone, Caint.

Dywedodd y cadeirydd gweithredol, Alan Proto: "Rydym wrth ein boddau i lansio ein gweithredoedd newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel y gall mwy o bobl yn y rhanbarth fedru elwa ar ein paneli solar".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol