Tagfeydd wedi damwain ar yr A48 Cross Hands

Map o'r ardal Image copyright bbc

Mae ffordd yr A48 i'r gorllewin wedi cau yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, ar ôl damwain rhwng sawl cerbyd.

Yn ôl adroddiadau mae pum car yn y ddamwain.

Mae tagfeydd yn yr ardal o ganlyniad i'r ddamwain rhwng yr A467 Ffordd Llandeilo yn Cross Hands a'r B4310 Porthyrhyd.

Caiff traffig ei ddargyfeirio drwy Foelgastell.

Mae'r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i'r ddamwain.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nad oes neb wedi eu caethiwo yn y cerbydau ond mae 'na rai anafiadau.

Does dim disgwyl i'r ffordd ailagor cyn 10am.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.