Anrhydeddu dwy fam

  • Cyhoeddwyd
Sharon MillsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw mab Sharon Mills, Mason Jones, o wenwyn E.coli yn 2005

Mae dwy fam o Gymru wedi cael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Blynyddol Mam y Flwyddyn.

Enillodd Sharon Mills wobr Ymgyrchydd y Flwyddyn ac fe aeth gwobr Cyflawnwraig y Flwyddyn i Helen Wynne.

Bydd y ddwy yn teithio i Lundain ym mis Mawrth i dderbyn eu gwobrau mewn seremoni arbennig.

Dywedodd Liz Jarvis o gwmni Tesco, sy'n noddi'r gwobrau: "Mae'n fraint cael cydnabod menywod rhyfeddol fel Helen a Sharon sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth yn eu cymunedau lleol."

Enillodd Sharon ei gwobr am wella hylendid bwyd wedi marwolaeth ei mab Mason Jones o wenwyn E.coli yn 2005.

Oherwydd ei hymdrechion diflino yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd a Llais Defnyddwyr Cymru sefydlwyd cynllun lle mae busnesau bwyd yn dangos sgôr hylendid ar eu drysau.

'Stori anhygoel'

Daeth y cynllun i rym ar draws Cymru ym mis Medi 2010 ac fe fydd yn orfodol erbyn 2014.

Ei nod oedd atal marwolaethau diangen o ganlyniad i safonau hylendid bwyd gwael.

Dywedodd Liz Jarvis: "Mae stori Sharon yn anhygoel ... ni ddylai unrhyw fam orfod cael profiad fel y cafodd hithau.

"Nid yn unig mae'n ymgyrchwraig eithriadol ond mae'n fam wych i'w dau fab, Chandler a Cavan."

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae mab Helen Wynne, Dyfan, yn un o bump yn y byd sy'n dioddef o'r cyflwr

Cyflwr prin

Cafodd Helen Wynne ei chydnabod am sefydlu gwasanaeth gofal plant, y mwyaf yn yr ardal.

Hi yw mam Dyfan, saith oed, gafodd ei eni gyda chyflwr genetig prin - fe yw'r unig ddioddefwr yn y DU a dim ond pump sydd yn y byd.

Roedd meddygon wedi dweud bod y cyflwr sy'n effeithio ar gromosom 8 yn golygu na fyddai Dyfan yn medru cerdded na siarad.

Ond ac yntau yn saith oed mae'n medru gwneud y ddau beth.

Oherwydd ei anghenion meddygol, roedd rhaid i Helen a'i gŵr Dean fynd ag ef i'r ysbyty hyd at bum gwaith yr wythnos ac roedd yn amhosib dod o hyd i gyfleuster fyddai'n gofalu amdano yn lleol.

Aeth Helen ati i hyfforddi, gan gynnwys dysgu iaith Makaton (ffurf sylfaenol ar iaith arwyddo i blant), cyn sefydlu Gwasanaethau Gofal Plant Blythswood yn ei chartref.

Wedi i'r rhieni gofrestru'n ofalwyr plant, fe ddechreuon nhw gynnig eu gwasanaeth a bellach y ganolfan yw'r fwyaf yn Wrecsam wrth ofalu am hyd at 12 o blant anghenus ar y tro.

Roedd y panel dewis yn cynnwys yr athletwraig Denise Lewis OBE, y fenyw fusnes Michelle Mone OBE a'r ddawnswraig Arlene Phillips OBE.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol