Gwaith artistiaid rhestr fer Artist Mundi 2012

Published
image captionMae rhestr fer yr artistiaid ar gyfer Gwobr Artes Mundi 5 (2012) wedi ei gyhoeddi. Mae saith artist arno gan gynnwys Tania Bruguera o Cuba. Dyma "Sin Titulo" sy'n ddarn fideo.
image captionDarn arall o waith Tania Bruguera yw Tatlin's Whispers
image captionO Mecsico y daw Teresa Margolles. Dyma ei gwaith "What Else Could We Talk About, Celaning" sy'n cynnwys dwr a gwaed ar lawr arddangosfa o'r bobl â lofruddwyd ym Mecsico sy'n cael ei lanhau o leiaf unwaith y dydd.
image caption"In the Air" yw darn arall o waith Teresa Margolles sydd wedi ei henwi ar y rhestr fer.
image captionMae Apolonija Šušteršič yn dod o Slofenia a dyma ei gwaith "Community Oavillion".
image caption"Garden Service" yw hwn o waith Apolonija Šušteršič. Dyma'r bumed flwyddyn i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ac mae 'na wobr o £40,000 i'r enillydd.
image captionO Lithiwania y daw Darius Mikšys a dyma ei waith "Behind the White Curtain".
image captionArtist Oarent's Meeting yw darn arall o waith Darius Mikšys a fydd yn cystadlu am y wobr sy'n cael ei gynnig bob dwy flynedd.
image captionUn o Sweden yw Miriam Bäckström, un o bum merch sydd ar y rhestr fer. Dyma ei gwaith "The Opposite of Me is I" sy'n ddarn tapestri.
image captionDyma ddarn "Attractions/Red Vitrine" gan Miriam Bäckström. Bydd bob un o'r chwech artist sydd ddim yn dod i'r brig yn derbyn gwobr newydd o £4,000 yr un.
image captionYr unig artist o Brydain yw Phil Collins o Loegr. Dyma ei waith "Auto-Kino!"
image captionAil ddarn o waith Phil Collins yw "soy mi madre", ffilm mewn Sbaeneg. Dyma un o ddau ddyn sydd ar y rhestr fer.
image captionArtist o India yw Sheela Gowda. Fe gychwynnodd ei gyrfa yn gwneud peintiadau ond mae hi bellach yn gwneud gwaith cerfluniol. Dyma ei gwaith "Of All People"
image captionDyma waith "Collateral" gan Sheela Gowda. Fe fydd yr holl waith i'w gweld mewn arddangosfa arbennig yn yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol newydd Cymru o Hydref 6 2012 ymlaen.

Straeon perthnasol