Gweithwyr Pot Noodle yn streicio
- Published
Mae gweithwyr ffatri Pot Noodle yng Nghrymlyn, Sir Gaerffili, yn streicio oherwydd newidiadau i'w pensiynau.
Roedd aelodau undeb Unite yn gweithredu'n ddiwydiannol ddydd Iau fel rhan o weithredu am 11 diwrnod ar safleoedd cwmni Unilever yn y pedair gwlad.
Mae'r aelodau yn credu y bydd y cynllun newydd yn arwain at bobl yn colli hyd at 40% o'u pensiynau.
Mynnodd Unilever y byddai'r cynllun yn "gystadleuol iawn" o hyd.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi cael amser i baratoi am y gweithredu ond mae'r undebau wedi dweud y byddai'n effeithio ar gynhyrchu brandiau fel Pot Noodle, Persil, PG Tips a Lynx.
'Yn gandryll'
Dywedodd swyddogion undeb fod gweithwyr yn "gandryll" am y cynlluniau i gael gwared â'r cynllun pensiwn yn seiliedig ar gyflog.
Mae swyddog Prydeinig yr undeb, Jennie Formby, wedi dweud: "Gweithwyr caled sydd wedi codi Unilever i'r statws byd-eang presennol ond yn fuan bydd cwsmeriaid yn adnabod y cwmni fel un sy'n farus gyda'u pensiynau yn hytrach na'u cynnyrch."
Mae Unilever wedi dweud y bydd bron 90% o'r gweithlu yn cadw 80% neu fwy o'u pensiynau.
Dywedodd llefarydd: "Y realiti yw bod cynrychiolwyr yr undebau wedi cael cyfleoedd i ddylanwadu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ym mis Hydref ond, yn anffodus, fe wnaethon nhw adael y trafodaethau.
"Roedd gwneud y newidiadau yn ddewis anodd ond angenrheidiol sy'n adlewyrchu realiti'r farchnad a disgwyliad oes hirach."
Mae'r ffatri yng Nghrymlyn ger y Coed Duon wedi bod yn cynhyrchu Pot Noodle am dros 30 mlynedd, gan gynhyrchu 155 miliwn pot o'r byrbryd bob blwyddyn.