BBC Cymru Fyw

Tri yn yr ysbyty wedi damwain ar yr A48 Cross Hands

Published
image copyrightbbc

Mae tri yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wedi damwain rhwng pum cerbyd fore Iau.

Dywedodd yr heddlu nad oedd eu hanafiadau'n ddifrifol.

Cafodd yr A48 i'r gorllewin ei chau yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin, am gyfnod.

Roedd tagfeydd rhwng yr A467 Heol Llandeilo yn Cross Hands a'r B4310 i Borthyrhyd.

Cafodd traffig ei ddargyfeirio drwy Foelgastell.