Cawodydd o eira yn y cymoedd
- Cyhoeddwyd

Eira yng Nglyn Ebwy ddydd Iau
Mae cawodydd o eira wedi effeithio ar drafnidiaeth yn yr oriau brig yn y cymoedd ddydd Iau.
Dywedodd Traffig Cymru bod problemau wedi bod yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tydfil nos Iau, yn bennaf yn effeithio ar ffyrdd uchel o gwmpas yr A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd.
Mae modurwyr wedi cael rhybudd i gymryd gofal ar yr A4059 Ffordd Hirwaun rhwng yr A465 yn Ffordd Aberhonddu, Hirwaun, a Ffordd y Gamlas, Aberdâr.
Mae angen gofal arbennig hefyd ar Ffordd Mynyddig yr A4061 yn Rhigos.
Ffynhonnell y llun, Other
Eira yn Nhredegar ddydd Iau
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol