Cyhuddo dyn o lofruddiaeth a threisio gwraig yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn yn y ddalfa ar ôl bod yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio a threisio gwraig 67 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Cafwyd hyd i Irene Lawless yn ei chartref yn Llanllwni ddydd Llun, Ionawr 23.

Roeed Darren Martin Jackson, 26 oed o Gaint, gerbron Llys Ynadon Llanelli fore Gwener a bydd yn Llys y Goron Abertawe ar Chwefror 7.

Cafodd ei arestio yng Nghaint ddydd Mawrth.

Ychwanegodd y Ditectif Uwcharolygydd Pam Kelly ei bod am ddiolch i'r gymuned fechan leol am eu hamynedd a chefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol