Ymchwilio wedi tân mewn tŷ ym Mhentyrch, Caerdydd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymchwilio ar ôl tân mewn tŷ ym Mhentyrch, Caerdydd.

Cafodd diffoddwyr eu galw o'r Eglwys Newydd a Phontypridd i ddiffodd y fflamau yn y byngalo yn y pentref am 2.37am ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod ymchwiliad yn cael ei gynnal ynglŷn â'r tân yng Nghefn Bychan.

Dydi'r gwasanaethau brys ddim wedi cyhoeddi a oedd unrhyw un yn y tŷ pan ddechreuodd y tân.

Yn y cyfamser cafodd dau ddyn driniaeth am effaith anadlu mwg ar ôl tân mewn fflat yn Fernhill, Aberpennar yng Nghwm Cynon.

Cafodd diffoddwyr tân o Aberdâr eu galw i ddiffodd y fflamau yn y fflat llawr cyntaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.