Blake: 'Bygythiodd rhywun fy mywyd'

Nathan Blake Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraeodd Blake 29 o weithiau dros Gymru rhwng 1994 a 2003

Mae cyn ymosodwr pêl droed Cymru Nathan Blake wedi dweud bod rhywun unwaith wedi bygwth ei fywyd tra oedd yn chwarae i Blackburn Rovers yn Uwchgynghrair Lloegr.

Dywedodd Blake, 39 oed, fod y bygythiad mewn pecyn wedi iddo dynnu'n ôl o garfan Cymru.

"Roedd cnau a neges sarhaus y tu mewn i'r pecyn," meddai wrth raglen BBC Cymru, Sport Wales.

"Hefyd roedd llun o Jill Dando (cyflwynydd y BBC gafodd ei lladd ym 1999) a llun o ddryll - a bwled yn mynd i gyfeiriad ei phen.

"O dan y llun roedd y neges: 'Chi sy nesa'.

"Roedd capten y clwb am imi roi'r pecyn i'r heddlu ond mae rhywun yn taflu'r peth i ffwrdd a symud ymlaen.

"Ac roedd hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau (hiliol) yn ystod fy ngyrfa."

Honiadau hiliol

Bu Blake, a chwaraeodd 29 o weithiau i Gymru, yn siarad am ei brofiadau wedi nifer o honiadau hiliol yn y byd pêl droed.

Cafodd chwaraewr Lerpwl, Luis Suarez ei wahardd rhag chwarae am wyth gêm wedi sylwadau wrth amddiffynwr Manchester United, Patrice Evra.

Bu hefyd honiadau fod chwaraewr Oldham, Tom Adeyemi, wedi ei sarhau gan dorf Lerpwl yn ystod gêm gwpan yr FA yn Anfield.

"Dwi ddim yn credu bod pobl yn deall yr effaith ar unigolyn oherwydd yr hanes sy'n gysylltiedig â'r pwnc," meddai Blake.

"Roeddwn i wedi cwyno sawl gwaith a thynnu'n ôl o garfanau ac roedd hyn wedi cael ei hysbysu'n dda.

"Dyna pryd y ces i'r pecyn."

Trefn gyhoeddus

Mae capten tîm Lloegr, John Terry, i fod gerbron ynadon ddydd Mercher, Chwefror 1, ar gyhuddiad yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.

Mae wedi gwadu'r honiad.

Dywedodd Blake ac ymosodwr Caerdydd a Chymru, Robert Earnshaw, y byddai'n anodd i Terry barhau fel capten Lloegr os yw'n euog.

"Byddai'n anodd iddo fod yn gapten am fod y mater hwn y tu hwnt i bêl droed," meddai Earnshaw.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.