Ymchwilio i lofruddiaeth wedi tân ym Mhentyrch, Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu yn ymchwilio ym Mhentyrch, Caerdydd
Mae dyn 18 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i unigolyn farw mewn tŷ ym Mhentyrch, Caerdydd.
Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r tŷ yng Nghefn Bychan gan y gwasanaeth tân am 3.02am ddydd Gwener.
Mae ystafell ymchwilio wedi'i sefydlu yng ngorsaf Heddlu Canolog Caerdydd.
Dywed yr heddlu nad oed mwy o wybodaeth am yr unigolyn fu farw ar hyn o bryd.
Cafodd diffoddwyr eu galw o'r Eglwys Newydd a Phontypridd i ddiffodd y fflamau yn y byngalo yn y pentref am 2.37am ddydd Gwener.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol