Lynette: Achos arall yn 'annhebygol'
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr cyfreithiol wedi dweud bod dod o hyd i ddogfennau allweddol achos wyth cyn-heddwas yn annhebygol o arwain at achos arall.
Roedd Winston Roddick QC yn rhoi sylw wedi iddi ddod i'r amlwg nad oedd tystiolaeth yn achos yr wyth wedi ei dinistrio wedi'r cwbwl.
Daeth yr achos yn erbyn yr wyth, oedd wedi gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yn 1988, i ben yn sydyn ym mis Rhagfyr.
Dywedodd y barnwr na fyddai'r wyth - a dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn oedd wedi gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw, yn cael achos teg.
Bocsys gwreiddiol
Ar y pryd dyfarnwyd bod yr wyth yn ddieuog oherwydd pryderon bod tystiolaeth wedi ei dinistrio.
Ond brynhawn Iau cyhoeddodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu nad oedd y dystiolaeth wedi ei dinistrio.
Daethpwyd o hyd i'r dogfennau yn eu bocsys gwreiddiol ym meddiant Heddlu'r De.
Mae cyn-Weinidog y Swyddfa Gartref, Alun Michael, wedi dweud nad oedd hi'n debygol fod y dogfennau yn ganolog i'r achos.
Fore Gwener awgrymodd Mr Roddick y byddai modd cynnal achos arall pe bai'r dogfennau'n "dystiolaeth rymus" er budd y cyhoedd.
Ond yn ddiweddarach dywedodd y byddai achos arall yn "annhebygol iawn".
'Ffafrio'
Dywedodd Mr Roddick y byddai'n rhaid i'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Starmer, fod yn fodlon y byddai unrhyw achos er budd y cyhoedd cyn iddo gyflwyno'r achos i'r Llys Apêl.
"Fy nealltwriaeth i yw bod y dystiolaeth gafodd ei darganfod yn ffafrio'r amddiffyn yn hytrach na'r erlyniad ac felly nid yw'r dystiolaeth yn ateb meini prawf."
Mae Mr Michael, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, wedi dweud na allai'r mater fynd ymhellach tan i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ymchwiliio a datgan eu casgliadau.
Bydd Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron yn arolygu'r achos gostiodd tua £30m.
Cafodd Lynette White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat uwchben siop fetio yn ardal Trebiwt o Gaerdydd Ddydd San Ffolant 1988.
Roedd wedi ei thrywanu fwy na 50 o weithiau.
Straeon perthnasol
- 26 Ionawr 2012
- 1 Rhagfyr 2011
- 1 Rhagfyr 2011
- 10 Hydref 2011
- 8 Awst 2011
- 3 Awst 2011
- 26 Gorffennaf 2011
- 25 Gorffennaf 2011
- 22 Gorffennaf 2011
- 20 Gorffennaf 2011
- 8 Gorffennaf 2011
- 7 Gorffennaf 2011
- 6 Gorffennaf 2011
- 19 Mehefin 2009