Gwaith yn dechrau ar lysoedd

Marina Aberystwyth Image copyright Other
Image caption Bydd y Ganolfan Gyfiawnder newydd ym marina Aberystwyth

Mae'r gwaith wedi dechrau ar lysoedd sirol ac ynadon Aberystwyth.

Cafodd adeilad ym marina'r dref ei brynu gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoed Ei Mawrhydi (HMCTS) y llynedd am dros £1.3 miliwn.

Roedd y gwaith o'i addasu i fod i ddechrau ym mis Hydref y llynedd, ac mae Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams, wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder oherwydd yr oedi.

Dywedodd HMCTS bod y gwaith wedi dechrau ddydd Llun ac y bydd wedi ei gwblhau erbyn mis Medi.

Y Ganolfan Gyfiawnder fydd enw'r llysoedd newydd, ac fe fydd yn gweld uno llysoedd sirol ac ynadon sydd ar hyn o bryd mewn dau adeilad gwahanol yn Aberystwyth.

'Archwiliadau'

Dywedodd llefarydd ar ran HMCTS: "Fe wnaeth HMCTS yr holl archwiliadau angenrheidiol cyn prynu'r safle.

"Fodd bynnag pan ddaeth contractwyr i ddechrau'r gwaith o ddod o hyd i'r pibelli dŵr ac ati, doedden nhw ddim yn eu lle yn ôl y cynlluniau.

"Roedd y gwaith o symud y rhain yn golygu nad oedd modd adeiladu ar y safle tan nawr."

Ychwanegodd y llefarydd bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ddydd Llun ac y byddai wedi ei gwblhau erbyn diwedd Medi.

Mae cost y cynllun yn cynnwys y gost o brynu'r adeilad. Roedd gan HMCTS gynlluniau i adeilad llys gwerth £10m mewn rhan arall o'r dref ym Mharc y Llyn, ond daeth y rheini i ben pan aeth y datblygwr i ddwylo'r gweinyddwyr.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.