Seren Sky yn methu achub tîm pêl-droed Y Trallwng
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth un chwaraewr go arbennig chwarae ei gêm gyntaf i glwb pêl-droed Y Trallwng ddydd Sadwrn.
Bu cyflwynydd a phanel y rhaglen deledu Soccer Saturday ar sianel Sky Sports - Jeff Stelling a'i griw - yn gwawdio'r tîm wedi iddyn nhw golli o 10-1 yn erbyn Waterloo Rovers ar Ŵyl San Steffan.
Yr wythnos ganlynol collodd y ti eto o 7-1 yn erbyn Pentref Llansanffraid.
Ysgrifennodd y rheolwr, Dave Jones, at y rhaglen i amlinellu trafferthion y clwb - diffyg chwaraewyr er enghraifft - ac mae'r rhaglen wedi ymateb drwy gyfrannu cyn-chwaraewr Leeds United a Stoke, Chris Kamara, 54 oed, i'r tîm y Sadwrn yma.
Ond roedd yn ormod o dasg iddo gynnig achubiaeth i'r clwb mewn diwrnod, oherwydd fe wnaeth Y Trallwng golli yn erbyn eu cymdogion, Rhaeadr, o 6-1.
Disgyn ddwywaith
Mae'r clwb wedi bod drwy'r felin dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Does dim llawer ers i'r clwb orffen yn bumed yn Uwchgynghrair Cymru, ond pan gafodd yr Uwchgynghrair ei chwtogi i 12 tîm, doedd dim lle i'r Trallwng.
Roedd y tymor diwethaf yn anodd hefyd i'r clwb a sefydlwyd 133 o flynyddoedd yn ôl, ac fe orffennon nhw ar waelod y Cymru Alliance gan ddisgyn adran arall i Gynghrair Canolbarth Cymru.
Ar hyn o bryd maen nhw'n agos i waelod yr adran honno gydag wyth pwynt o 20 gêm y tymor hwn.
Achubiaeth?
Mae Kamara wedi gorfod arwyddo i glwb Y Trallwng tan ddiwedd y tymor, ac am mai yn Lloegr oedd ei glwb diwethaf, mae hefyd wedi gorfod cael caniatâd rhyngwladol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i chwarae o gwbl.
Ac roedd camerâu Sky Sports yng Nghae Maesydre ddydd Sadwrn i weld y chwaraewr newydd.
Mae Clwb Y Trallwng bellach yn cael ei redeg gan y cefnogwyr er lles y gymuned leol, ac roedd y gymuned - a'r clwb - yn llygad y byd brynhawn Sadwrn.