Canolfan iâ newydd i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan newydd ar gyfer chwaraeon y gaeaf yn dod i Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Bae Caerdydd wedi iddo gael ei gymeradwyo.
Bydd y gwaith ar lethr sgïo, arena sglefrio ynghyd â siopau, tai bwyta, gwesty a chartrefi newydd yn dechrau ar unwaith.
Y datblygwyr fydd cwmni Helium Miracle 113, sy'n rhan o gwmni mwy Greenbank Partnerships o Wigan.
Y llynedd daeth cytundeb rhwng Cyngor Caerdydd a'r datblygwyr Planet Ice - a enillodd y cytundeb gwreiddiol - i ben oherwydd anghydfod am arian.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman, y bydd y datblygiad yn hwb i enw da'r ddinas yn rhyngwladol.
Mae disgwyl i'r arena newydd gael ei gwblhau mewn pryd i gynnal y rhan fwyaf o'r tymor hoci iâ yn 2013/14.
Mae disgwyl i'r cynllun cyfan gael ei gwblhau ymhen pum mlynedd.
'Enw da'
"Fe wnaethon ni addo darparu llawr sglefrio newydd i Gaerdydd, ac rwyf wrth fy modd bod y cynlluniau yma'n mynd yn eu blaenau," meddai'r Cynghorydd Berman.
"Y llawr sglefrio newydd, gyda seddau i ymwelwyr, bariau a chaffi, fydd cartref newydd tîm hoci iâ Devils Caerdydd.
"Bydd y ganolgan hefyd yn gonglfaen arall i'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol sydd yn allweddol i gynlluniau'r cyngor i hybu enw da Caerdydd fel cyrchfan pwysig i dwristiaid ac fel prifddinas ryngwladol."
Dywedodd Paul Ragan, perchennog clwb hoci iâ Devils Caerdydd, bod y newyddion yn "wych".
"Bydd hwn yn rhoi Caerdydd ar y map ar gyfer chwaraeon iâ drwy Ewrop," meddai.
Ychwanegodd Jonathan Smith, cyfwyddwr datblygu gyda Helium Miracle 113, ei fod yn edrych ymlaen i adeiladu ar enw da Caerdydd ym myd diwylliant a thwristiaeth.
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2010