Myfyriwr wedi marw o lid yr ymennydd
- Cyhoeddwyd
Mae awdurdodau iechyd wedi ysgrifennu at fyfyrwyr yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd, i ddweud bod myfyriwr wedi marw o lid yr ymennydd.
Credir bod y myfyriwr, sydd ddim wedi cael ei enwi, wedi marw rhwng nos Iau a bore Gwener, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae teulu a ffrindiau agos y myfyriwr wedi derbyn gwrthfiotigau.
Cafodd y myfyriwr y math meningococaidd grŵp B.
Mae'r llythyr yn dweud y dylai myfyrwyr fod ar eu gwyliadwriaeth am unrhyw symptomau, ond nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu bod risg iddyn nhw ddal y llid.
Mae'r symptomau yn cynnwys cyfogi, cur pen difrifol, gwres uchel iawn, cric yn y gwâr, sensitifrwydd i oleuadau a phoen yn y cyhyrau a'r cymalau.
10% o achosion
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae mwyafrif yr heintiau meningococaidd yn digwydd ymhlith babanod sy'n iau na phum mlwydd oed, gydag uchafbwynt yn nifer yr achosion ymhlith plant o dan flwydd oed.
Bydd uchafbwynt eilaidd, llai, ymysg oedolion ifanc sydd rhwng 15 ac 19 mlwydd oed.
Mae clefyd meningococaidd yn angheuol mewn tua 10% o achosion.
Mae 2,000 o fyfyrwyr llawn-amser a 6,500 o fyfyrwyr rhan-amser yng Ngholeg Sir Benfro.