Cwpan Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r deiliaid drwodd i rownd wyth olaf Cwpan Cymru ar ôl llafurio'n galed yn y Rhyl a chwaraeodd gyda 10 dyn am y rhan fwyaf o'r gêm wedi cerdyn coch.
Roedd Rhyl ar ei hôl hi deirgwaith, gan wrthod rhoi'r ffidil yn y to bob tro, gan ddod yn ôl i 3-3 wedi amser ychwanegol.
Llanelli enillodd ar ôl i'r gêm fynd i giciau o'r smotyn.
Fe wnaeth Y Seintiau Newydd groesawu Casnewydd yn eu tymor cyntaf nhw yn ôl yn y gystadleuaeth ers y 90au.
Ond nid hawdd i Gasnewydd oedd cynnau tân ar hen aelwyd, wrth golli 4-0.
Dim ond un gêm oedd yn gweld dau dîm o Uwchgynghrair Cymru yn herio'i gilydd, sef ymweliad Airbus UK Brychdyn â Lido Afan, gyda'r ymwelwyr yn ennill ar ôl i'r gêm fynd i giciau o'r smotyn.
Methodd Bwcle â chreu sioc wrth groesawu'r Bala - felly hefyd Llandudno wrth deithio i Aberystwyth, gydag Aberystwyth yn ennill ar ôl i'r gêm honno hefyd fynd i giciau o'r smotyn.
Pedwaredd rownd Cwpan Cymru:-
Y Rhyl 3-3 Llanelli (4-5 ar giciau o'r smotyn)
Lido Afan 2-2 Airbus UK Brychdyn (4-5 ar giciau o'r smotyn)
Bwcle 2-4 Bala
Fflint 1-3 Castell-nedd
Aberystwyth 1-1 Llandudno (5-4 ar giciau o'r smotyn)
Y Seintiau Newydd 4-0 Casnewydd
Prestatyn 0-2 Derwyddon Cefn
Caerfyrddin 3-1 AFC Porth
Daeth yr enwau allan o'r het ar gyfer rownd yr wyth olaf:
Bala v Llanelli
Airbus v Caerfyrddin
Aberystwyth v Derwyddon Cefn
Y Seintiau Newydd v Castell-nedd